MSE News

Lansio fersiwn Gymraeg newydd o gwrs 'Academoney' MSE gyda’r Brifysgol Agored

Lansio fersiwn Gymraeg newydd o gwrs 'Academoney' MSE gyda’r Brifysgol Agored

Mae cwrs 'Academoney' MoneySavingExpert.com - a baratowyd ac ysgrifennwyd gan y Brifysgol Agored – bellach ar gael yn ddwyieithog, gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru i feistroli eu harian, yn eu dewis nhw o’r Gymraeg neu Saesneg.

This news story has been written in Welsh. To view the English version, see the following MSE News story: New Welsh language version of MSE's hit Open University 'Academoney' course launches

illustration

Dilynwch y dolenni isod i gofrestru ar y cyrsiau am ddim: 

Mae’r cwrs - Academi Arian - wedi’i gyfieithu o’r newydd o Academy of Money MSE, prosiect addysg ariannol a lansiwyd yn Saesneg y llynedd, yn dilyn cydweithrediad rhwng MoneySavingExpert.com (MSE) â’r sefydliad dysgu o bell y Brifysgol Agored.

Wedi'i gynnal ar blatfform OpenLearn y Brifysgol Agored, dyma oedd y cwrs newydd, rhad ac am ddim mwyaf poblogaidd y darparwr addysg uwch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwy na 37,000 yn cofrestru ar ei gyfer.

Embedded YouTube Video

Mae'r cwrs yn cynnwys chwe sesiwn dwy awr o astudio yn ymdrin â phob agwedd ar gyllid personol:

  • Gwneud penderfyniadau gwario da: Byddwch yn archwilio pa bwysau ymddygiadol a marchnata sy'n dylanwadu ar benderfyniadau prynu ac yn edrych ar fodel penderfynu pedwar cam syml. Mae datblygu eich agwedd at reoli arian yn sail i'r sesiwn hon, a gweddill y cwrs.  
  • Cyllidebu a threthiant: Mae'r sesiwn hon yn archwilio sut mae cyfrifo eich incwm net. Byddwch yn archwilio patrymau gwario, sut mae yswiriant gwladol a threth yn gweithio, a sut mae cynllunio i adeiladu cyllideb lwyddiannus.
  • Benthyca arian: Mae'r sesiwn hon yn edrych ar sut mae gwahanol fathau o ddyled yn gweithio, y gwahaniaethau rhyngddynt a'r peryglon. Mae'n archwilio'r cysyniad 'dyled ddrwg, dyled dda' ac erbyn y diwedd, yn eich addysgu ynglŷn â sut mae benthyca'n synhwyrol.
  • Deall morgeisi: Mae cynhyrchion morgais yn gymhleth. Mae'r sesiwn hon yn rhoi sylfaen i chi o ran sut maent yn gweithio, cyfraddau llog, ad-daliadau a chosbau posibl. Mae hefyd yn archwilio morgeisi o safbwynt y darparwr benthyciadau i egluro sut y gallai eich contract ffôn symudol bennu faint y gallwch ei fenthyca.
  • Cynilo a buddsoddi: Mae'r sesiwn hon yn egluro'r gwahaniaeth rhwng cynilo a buddsoddi, yn ogystal â sut mae deall gwahanol fathau o fecanweithiau cynilo a hanfodion buddsoddiadau megis cyfranddaliadau, bondiau a nwyddau, a'r risgiau cysylltiedig.
  • Cynllunio ar gyfer ymddeoliad: Yn y sesiwn olaf hon, byddwch yn deall sut mae pensiynau gwladol, cynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol yn gweithio a'r gwahaniaethau rhyngddynt - mae wedi'i dylunio i'r rheiny sydd ar fin ymddeol a'r rheiny sydd ymhell o ymddeol.

Fel gyda'r cwrs iaith Saesneg, mae Academi Arian yn hollol hyblyg, gan ganiatáu i fyfyrwyr astudio ar eu cyflymder eu hunain, ac efallai dewis un pwnc i'w astudio hyd yn oed. Mae ar gael i unrhyw un sy'n dymuno gwella eu gwybodaeth am gyllid personol er eu budd a'u gallu ariannol eu hunain, neu, ar gyfer y rheiny sy'n gweithio mewn diwydiannau sy'n helpu defnyddwyr, gall ddarparu sylfaen academaidd i gefnogi eu gwaith.

Yn ogystal â datganiad o gyfranogiad y gellir ei lawrlwytho am ddim, bydd cofrestru ar y cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill bathodyn digidol am ddim y Brifysgol Agored os ydynt yn cwblhau pob un o'r chwe sesiwn. Dyma ffordd o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a'ch ymrwymiad i'ch gyrfa gyda datblygiad proffesiynol parhaus.

Cyfieithwyd y cwrs fel rhan o'r Casgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl ar gyfer OpenLearn yng Nghymru; casgliad am ddim o adnoddau dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, a ariannwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Darparwyd y casgliad gan y Brifysgol Agored yng Nghrymu, mewn partneriaeth â Chymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ac Addysg Oedolion Cymru.

'Mae 'Academoney' gan MSE eisoes yn un o'r cyrsiau mwyaf poblogaidd sydd ar gael am ddim - prawf o’r pwyslais yr ydym yn ei roi ar addysg ariannol'

Dywedodd Martin Lewis, sylfaenydd MoneySavingExpert.com, sydd hefyd wedi cyd-ariannu gwerslyfr addysg ariannol sy’n cydweddu â'r cwricwlwm yng Nghymru : "Mae 'Academoney' gan MSE eisoes yn un o'r cyrsiau mwyaf poblogaidd sydd ar gael am ddim - prawf o’r pwyslais yr ydym yn ei roi ar addysg ariannol. Mae'r addysg honno'n hollbwysig, bron fel math o hunanamddiffyniad ariannol. Felly rwy’n falch ac yn ddiolchgar i'r Brifysgol Agored am ein bod ni nawr yn gallu cymhwyso pobl, am ddim, yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

"Mae cwmnïau’n gwario biliynau ar hysbysebu, marchnata ac addysgu staff i werthu, ac eto nid ydym ni fel defnyddwyr yn cael unrhyw hyfforddiant fel prynwyr. Pwrpas Academi Arian yw gwneud yn iawn am yr addysg ariannol wael a gafodd llawer o oedolion, os o gwbl, yn yr ysgol. Ac er bod y cwrs yn ddefnyddiol ar gyfer eich gwybodaeth ariannol bersonol, i lawer o bobl, mae e hefyd yn ffordd wych o ddangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol”

MSE weekly email

FREE weekly MoneySaving email

For all the latest deals, guides and loopholes simply sign up today – it's spam-free!